Rhif y ddeiseb: P-06-1228 Teitl y ddeiseb: Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021. Geiriad y ddeiseb: O ganlyniad i’r pandemig, athrawon Cymru sydd yn cario’r baich am farcio, safoni a chymedroli asesiadau TGAU, UG ac A2 yn lle’r byrddau arholi. Mae hyn ar ben dysgu amserlen arferol a marcio gwaith dysgwyr eraill. Mae rhai athrawon ond wedi cael eu rhyddhau am un awr i gyflawni’r gwaith sydd yn anochel felly wedi gorfod cael ei gwblhau ar ôl oriau gwaith ac ar y penwythnos. Mae athrawon CA4 a 5 Cymru yn haeddu bonws am eu hymdrechion fel athrawon Yr Alban. |
Arweiniodd cyfarwyddyd gweinidogol ynghylch cymwysterau ym mis Tachwedd 2020 at ganslo arholiadau’r haf 2021. Sefydlwyd Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, yn cynnwys penaethiaid ysgolion ac arweinwyr colegau, i roi cyngor ar ddyfarnu graddau yn haf 2021.
Ar 20 Ionawr 2021, ar ôl cau ysgolion a cholegau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb, cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, y byddai cymwysterau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn cael eu dyfarnu i ddysgwyr drwy fodel Gradd a Bennir gan Ganolfan. Roedd hyn yn golygu y byddai graddau'n cael eu pennu gan athrawon a darlithwyr yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr.
Roedd ysgolion a cholegau (y canolfannau) yn gallu defnyddio ystod o dystiolaeth i bennu'r graddau i'w dyfarnu i'w dysgwyr, gan gynnwys asesiadau heb arholiad, ffug-arholiadau a gwaith dosbarth. Hefyd, cynigiodd CBAC set o gyn-bapurau arholiad wedi'u haddasu i ganiatáu i ysgolion barhau i asesu’r hyn a ddysgwyd o fewn eu cynlluniau addysgu, gan gynnig cefnogaeth ychwanegol i athrawon a dysgwyr. Roedd yn ofynnol i ganolfannau ddarparu sail resymegol a sylfaen dystiolaeth gadarn wrth ddyfarnu pob gradd a bennwyd ganddynt fel y gallent fod yn sicr eu bod wedi pennu'r radd gywir ar gyfer pob dysgwr a’u bod yn gallu cyfiawnhau'r radd a ddyfarnwyd yn achos cais am adolygiad neu apêl.
Ar gais gan CBAC, roedd yn ofynnol i ganolfannau roi prosesau sicrhau ansawdd mewnol ar waith i hyrwyddo cysondeb y penderfyniadau ar raddau a wnaed ar draws y ganolfan (o fewn ac ar draws pynciau).
Hefyd, ysgolion a cholegau oedd cam cyntaf y broses apelio, felly roedd dysgwyr yn gallu gofyn i'w hysgol neu goleg adolygu’r radd dros dro a bennwyd gan y ganolfan os oeddent yn credu bod gwall wedi'i wneud wrth bennu’r radd honno. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl ar 9 Medi 2021 a oedd yn cyflwyno gwybodaeth gefndirol am arholiadau’r haf 2021 yn ogystal â’r canlyniadau.
Yn 2021, cafodd Awdurdod Cymwysterau'r Alban ei gomisiynu gan Lywodraeth yr Alban i lunio Model Ardystio Amgen ar gyfer asesiadau National 5, Higher ac Advanced Higher ar gyfer 2021. Mae'r rhain yn cyfateb yn fras i asesiadau TGAU a Safon Uwch. Mae'r model yn seiliedig ar farn athrawon, wedi'i hategu gan adnoddau asesu a phroses sicrhau ansawdd. Yn 2020, cafodd Awdurdod Cymwysterau’r Alban gyfarwyddyd gan y Dirprwy Brif Weinidog y dylid dyfarnu graddau yn bennaf ar sail amcangyfrifon athrawon.
Ar 8 Rhagfyr 2020, i gydnabod y llwyth gwaith ychwanegol oherwydd yr asesiad cymwysterau cenedlaethol yn absenoldeb arholiadau yn 2021, cyhoeddodd John Swinney, cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau, daliad untro eithriadol i athrawon a darlithwyr i gefnogi’r gwaith o gyflwyno'r Model Ardystio Amgen a ddisodlodd yr arholiadau National 5, Higher ac Advanced Higher (sy'n cyfateb yn fras i TGAU a Safon Uwch) yn 2021.
Ar 6 Ionawr 2021, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai’r graddau a roddir yn yr haf 2021 i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a reoleiddir gan Ofqual wedi’u seilio ar asesiadau gan eu hathrawon. Yn debyg i'r sefyllfa yng Nghymru, roedd athrawon yn gallu defnyddio tystiolaeth drwy gydol y cwrs i bennu gradd y dysgwr dan sylw, gan gynnwys asesiadau heb arholiad, cyn-bapurau neu dasgau a ddyfeisiwyd gan y ganolfan.
Cyflwynwyd deiseb i Senedd y DU, sef ‘Fund a £400 bonus for every teacher to mark externally-set exams’, a oedd yn galw am dalu bonws i athrawon yn Lloegr, ac fe gaeodd ar 12 Tachwedd 2021. Llofnodwyd y ddeiseb hon gan 3,014 o bobl, sy'n is na'r trothwy o 10,000 ar gyfer ymateb gan Lywodraeth y DU.
Ar 6 Ionawr 2021, cyhoeddodd Peter Weir ACD, y Gweinidog Addysg, y byddai holl arholiadau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch (A2) Cyngor y Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesiadau (bwrdd arholi Gogledd Iwerddon) a drefnwyd ar gyfer yr haf 2021 yn cael eu canslo. Yn debyg i Gymru, roedd y dull o ddyfarnu graddau yn yr haf 2021 yn seiliedig ar raddau a bennwyd gan ganolfan.
Ym mis Gorffennaf 2021, adroddwyd nad oedd gan yr Adran Addysg unrhyw gynlluniau ar y pryd i wneud taliad untro i athrawon a fu’n rhan o’r gwaith o asesu graddau a bennwyd gan ganolfan y tu hwnt i’w cyflog arferol.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |